Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete six to eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
4 years ago

All Star Challenges in Welsh

  • Text
  • Challenges
  • Planhigion
  • Swigod
  • Gwahanol
  • Bydd
  • Gweithgaredd
  • Mewn
  • Eich
  • Wneud
  • Wedi
  • Cosmic
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-Star-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Wncwl Astro Anti Stella

Wncwl Astro Anti Stella Bag Darganfod Cerdyn y Trefnydd Cosmic Gem Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i weud i blant i feddwl am goed, a'r bywyd y mae coed yn ei gynnal, a dechrau bod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng coed. Mae Wncwl Astro wedi gwneud 'bag darganfod' i Cosmic a Gem. Maen nhw'n meddwl bod gan y bag rannau o goed y tu mewn ond dydyn nhw ddim yn siŵr. Maen nhw'n dymuno darganfod rhagor. Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo plant i: • Feddwl am y pethau tebyg a gwahanol rhwng gwahanol goed • Meddwl am y gwahanol rannau o goed • Nodi gwrthrychau naturiol a gwrthrychau artiffisial Rhestr o adnoddau • Pensiliau, creonau, papur a glud • Chwyddwydrau • Ffotograffau o goed a/neu ganllawiau coed • Bag brethyn neu bapur mawr sy'n cynnwys: - Rhannau o ddetholiad o isafswm o ddwy goeden e.e. brigau â dail arnyn nhw, brigau noeth, rhisgl, ffrwythau, moch coed neu bethau megis afalau derw, os gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw. - Eitemau diddorol eraill nad ydyn nhw'n deillio o goed Cynhwyswch ddigon o ddeunydd i lenwi'r bag. Does dim gwahaniaeth os yw rhannau o'r un goeden yn cael eu hailadrodd. Beth i'w wneud 1. Cyflwynwch y gweithgaredd gan ddefnyddio'r stori. 2. Rhowch gardiau gweithgaredd ac adnoddau i'r plant. 3. Esboniwch y byddan nhw'n archwilio eu bag darganfod eu hunain. Trafodwch faterion diogelwch. Gweler y nodiadau ar beth i wylio amdano i gael rhagor o fanylion. 4. Anogwch blant i drafod eu syniadau a sut i gynnal eu hymchwiliadau. Siaradwch am y ffaith bod gan bob math gwahanol o goeden ddail, ffrwythau a rhisgl unigryw a sut i ddefnyddio'r chwyddwydr i wneud arsylwadau manwl. Trafodwch ddidoli, grwpio a chyfateb y rhannau o goeden. Cwestiynau symbylu: • Sut allwch chi wybod a yw rhywbeth yn rhan o goeden? • Faint o wahanol fathau o goed maen nhw'n eu hadnabod? 5. Cynorthwywch blant i wneud eu hymchwiliad ac ysgrifennu eu cofnodion eu hunain am eu canlyniadau. Gadewch iddyn nhw siarad â'i gilydd am beth maen nhw wedi'i ddarganfod. O faint o goed mae'r rhannau'n dod? Ydyn nhw wedi gweld unrhyw un o'r coed hyn? A oedd unrhyw beth arall yn y bag? Anogwch blant i wneud darluniadau manwl o rai o'r rhannau o goed i ddangos pethau tebyg a gwahanol. 6. Gofynnwch i'r plant gyflwyno eu canfyddiadau i weddill y grŵp, gallan nhw fod mor greadigol yn eu cyflwyniad ag y dymunan nhw. Gallen nhw greu collage gan ddefnyddio'r gwahanol rannau o goeden neu wneud rhwbiadau ar risgl neu ddail.

Pethau i'w hystyried Bydd ychwanegu eitemau heblaw am rannau coeden at y bagiau'n helpu i greu mwy o her a thrafodaeth. Gallai'r rhain fod yn rhannau planhigion eraill megis blodau, llysiau a ffrwythau, neu bethau a wneir o bren, neu unrhyw beth arall sy'n mynd â'ch ffansi! Gallai plant ddefnyddio canllaw coeden syml i'w helpu i nodi beth sydd ganddyn nhw. Gadewch iddyn nhw ymchwilio cymaint â phosib heb eich cymorth. Mae'n helpu os gall plant fynd allan i geisio paru'r rhannau â choed go iawn. Fel arall, anogwch nhw i edrych yn fanwl ar goed y gallen nhw eu gweld ar eu ffordd adref neu yn y parc lleol. Allweddeiriau • Naturiol • Artiffisial • Deilen • Rhisgl • Hadau • Moch coed • Brigau Byddwch yn ofalus! Gall rhai rhannau planhigyn fod yn wenwynig, tocsig (e.e. hadau Tresi Aur) neu fod â sudd a allai lidio'r croen. Gwiriwch fod eich rhannau o goeden yn ddiogel i'w defnyddio. Atgoffwch blant i beidio â bwyta unrhyw beth ac i olchi eu dwylo wedyn. Dysgwch ragor Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud ag un o arolygon amgylcheddol OPAL. Gallech chi siarad â phlant am ffyrdd o gyfranogi naill ai trwy'r ysgol neu'r cartref. I ddysgu rhagor trowch at www.opalexplorenature.org/crest Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association