Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
3 years ago

All Star Challenges in Welsh

  • Text
  • Challenges
  • Planhigion
  • Swigod
  • Gwahanol
  • Bydd
  • Gweithgaredd
  • Mewn
  • Eich
  • Wneud
  • Wedi
  • Cosmic
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-Star-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

PEGGY PROBLEM Problem â

PEGGY PROBLEM Problem â Phegiau PEGGY PROBLEM Cerdyn y Trefnydd PEGGY PROBLEM Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am afael a chryfder. Mae'n ddiwrnod golchi yn Nhy Anti Stella. Mae hi'n glanhau ei dillad ac yna'n eu hongian ar y lein ddillad i sychu. Mae'r dillad gwlyb yn dal i syrthio oddi ar y lein ddillad. Mae Cosmic a Gem yn penderfynu ceisio darganfod pa rai yw'r pegiau dillad gorau iddi hi eu defnyddio. A fydd rhai pegiau dillad yn gryfach nag eraill? PEGGY PROBLEM Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Ystyried yr hyn sy'n gwneud i beg weithio'n dda • Profi gwahanol fathau o begiau ac arsylwi pa mor gryf ydyn nhw • Cofnodi eu canlyniadau a'u rhannu â'r grŵp. Rhestr o adnoddau • Gwahanol fathau o begiau dillad (defnyddiwch begiau mae plant wedi'u cludo o'r cartref os yn bosibl) • Hosanau hir • Llawer o dywod • Cwpanau bach ar gyfer llenwi'r hosanau • Padell lwch a brwsh • Powlenni a gorchudd llawr i ddal y tywod Beth i'w wneud 1. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y CERDYN GWEITHGAREDD. Rhowch amser i'r plant siarad am eu syniadau. 2. Darllennwch y stori. Gofynnwch i'r plant siarad â chyfaill am gwestiynau a safbwyntiau Gem, Cosmic ac Anti Stella 3. Eglurwch y syniad o brofi'r pegiau trwy ychwanegu tywod at hosan ar lein ddillad. 4. Gallech chi adael iddyn nhw feddwl am dulliau eraill o brofi'r pegiau dillad. 5. Trafodwch faterion diogelwch. Gweler y nodiadau diogelwch dros y dudalen i weld rhagor o fanylion. 6. Siaradwch â'ch gilydd am beth maen nhw wedi'i ddarganfod. A oedd rhai pegiau'n well nag eraill? A wnaeth pawb gael yr un canlyniad? 7. Gadewch i'r plant ddangos eu canfyddiadau trwy dynnu llun neu boster neu ddefnyddio podiwm yr enillwyr. Os yn paentio, anogwch nhw i ychwanegu cymaint o fanylion â phosib. Gallen nhw ddefnyddio podiwm yr enillwyr i rannu eu canlyniadau. 8. Mae gweithgareddau dilynol ar gael ar gyfer plant sydd wedi gorffen neu sydd am wneud rhagor gartref ac ennill sticer bonws.

Pethau i'w hystyried Gwnewch yn siŵr bod y plant yn gwagio'r hosan gymaint ag y gallan nhw bob tro i geisio cadw'r prawf yn deg. Fel arall, trefnwch gasgliad o hosanau a defnyddiwch un newydd bob tro. Profwch yr hosanau i wirio nad fydd y tywod yn gollwng! Mae'n debygol fod y pegiau cyntaf yn ddarnau o bren â hollt mewn un pen a ddefnyddid gan bysgotwyr a fyddai'n hongian eu dillad golchi ar y rigin tra'r oedden nhw allan ar y môr. Nid hyd nes y dyfeisiwyd y 'clampsbring' ym 1853 y dechreuodd pegiau fod yn debyg i'r rhai a ddefnyddiwn ni heddiw. Mae'n bwysig bod y plant yn gallu teimlo fel 'gwyddonwyr go iawn' yn ystod y gweithgaredd hwn ac yn gwybod bod eu syniadau eu hunain yn bwysig hefyd. Os bydd plant yn dyfeisio eu profion eu hunain, ceisiwch roi cynnig arnyn nhw cyhyd â bod gennych y cyfarpar a bod y prawf yn ddiogel. Mynd gam ymhellach Gellir profi pegiau mewn sawl ffordd arall. Er enghraifft, mesur pwysedd clampio pegiau â sbrings. Gallwch chi wneud hyn trwy lynu'r pegiau wrth blastisin a mesur dyfnder yr hicyn. Allweddeiriau PEGGY PROBLEM • Gafael PEGGY PROBLEM • Pwysau • Sbring • Pegiau Byddwch yn ofalus! Rhowch bowlen o dan y llinyn dillad i'r hosanau llawn tywod syrthio i mewn iddyn nhw. Byddwch yn ofalus ynghylch lle rydych chi'n hongian y llinyn fel nad yw plant yn gallu rhedeg iddo. Cadwch y llinyn yn isel fel nad yw'r hosanau'n gorfod disgyn yn rhy bell a gall y plant eu cyrraedd yn rhwydd. Dylai plant fod yn ofalus wrth drin pegiau, yn arbennig y rhai â cholynnau sbring, er mwyn osgoi maglu bysedd a chroen. Dylid atgoffa'r plant i beidio â rhwbio eu llygaid pan fyddant yn trin y tywod ac i olchi eu dwylo wedyn. Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association