Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
3 years ago

All Star Challenges in Welsh

  • Text
  • Challenges
  • Planhigion
  • Swigod
  • Gwahanol
  • Bydd
  • Gweithgaredd
  • Mewn
  • Eich
  • Wneud
  • Wedi
  • Cosmic
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-Star-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Ditectifs Planhigion

Ditectifs Planhigion Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am ble mae planhigion yn tyfu. Mae Cosmic wedi canfod planhigyn sy'n tyfu yn y pafin. All e ddim penderfynu sut mae wedi cyrraedd yno. Mae planhigion yn tyfu mewn gerddi, nid palmentydd - onid ydyn nhw? Rhaid i Cosmic a Gem fod yn dditectifs planhigion a chwilio am gliwiau! Ond ble ddylen nhw chwilio er mwyn datrys y dirgelwch? Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Feddwl am ble mae planhigion yn tyfu a sut maen nhw'n cyrraedd yno • Ymchwilio a darganfod planhigion yn eu hamgylchoedd • Cofnodi eu canlyniadau a'u cyflwyno mewn albwm neu boster Rhestr o adnoddau • Mynediad i amgylchedd awyr agored diogel, yn ddelfrydol ag amrywiaeth o arwynebau megis waliau briciau, palmant, concrid, glaswellt • Chwyddwydr neu ficrosgop digidol (dewisol) • Canllaw adnabod • Camera(âu) neu adnoddau darlunio Beth i'w wneud 1. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y CERDYN GWEITHGAREDD. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi amser i'r plant siarad am eu syniadau. 2. Darllenwch y stori. Gofynnwch i'r plant siarad â'i gilydd am gwestiynau a barnau Anti Stella, Gem a Cosmic 3. Siaradwch â'r plant am ble allan nhw chwilio am blanhigion. Anogwch nhw i feddwl am fannau anarferol i chwilio. 4. Trafodwch â'r plant sut y byddan nhw'n cofnodi eu canfyddiadau a sicrhewch bod pawb yn cadw'n ddiogel. 5. Gall plant gasglu samplau, tynnu ffotograffau neu greu lluniadau. Os byddwch chi'n darparu map neu gynllun o'r llecyn, byddan nhw'n gallu ychwanegu sticeri neu eu delweddau i gofnodi lle canfuwyd planhigion. Efallai y bydd plant hyderus yn gallu gwneud eu mapiau neu eu cynlluniau eu hunain 6. Rhybuddiwch blant i beidio â bwyta unrhyw ran o'r planhigion byddan nhw'n eu canfod. 7. Anogwch blant i feddwl sut mae'r planhigion maen nhw'n eu canfod wedi cyrraedd yno. 8. Pan fydd y plant yn gorffen hela, gadewch iddyn nhw rannu eu cliwiau am beth maen nhw wedi'i ddarganfod. 9. A allan nhw benderfynu sut mae'r planhigion wedi cyrraedd eu lleoliadau?. 10. Mae gweithgareddau dilynol ar gyfer plant sydd wedi gorffen neu sydd am wneud rhagor o ddarganfod gartref ac ennill sticer bonws.

Pethau i'w hystyried Bydd y planhigion a ddarganfyddir yn ystod yr helfa yn amrywio gan ddibynnu ar adeg y flwyddyn. Gallwch chi ailadrodd y gweithgaredd hwn yn ystod gwahanol dymhorau a darganfod sut mae'r planhigion yn newid. Bydd y rhan fwyaf o blant yn meddwl bod angen plannu planhigion mewn pridd i dyfu. Efallai na fyddan nhw'n ymwybodol y gall planhigion (gan gynnwys eginblanhigion coed) dyfu mewn llawer o leoedd lle mae ond ychydig o bridd neu ddim pridd o gwbl - er enghraifft, rhwng briciau a cherrig palmentydd, ar waliau, mewn gwteri, mewn craciau yn rhisgl coed ac mewn dŵr. Mae rhai planhigion wedi'u haddasu i oroesi mewn amgylchiadau anodd. Er enghraifft, mae helyglys hardd, helygen Llychlyn a phabïau'n blanhigion sy'n tyfu'n rhwydd mewn amgylchiadau llwm. Mae planhigion yn cyrraedd y lleoliadau hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys cael eu gwasgaru gan y gwynt a chael eu cludo gan adar neu anifeiliaid eraill. Efallai y bydd rhai'n lledaenu o fannau eraill oherwydd bod planhigion yn tyfu coesau i'r ochr (stolonau a rhisomau). Mynd gam ymhellach Yn ystod yr helfa blanhigion gallai'r plant ddod o hyd i fwsoglau, cennau a ffyngau hefyd. Dosbarthir pob un o'r rhain ar wahân i'r planhigion cyffredin (megis coed, blodau a glaswelltau); dydy cennau a ffyngau ddim yn blanhigion mewn gwirionedd. Allweddeiriau • Planhigion • Hadau • Samplo • Natur Byddwch yn ofalus! Dilynwch ganllawiau'r sefydliad ynghylch gwaith yn yr awyr agored. Ddylai plant ddim rhoi unrhyw blanhigion yn eu ceg. Sicrhewch eu bod yn golchi eu dwylo pan fyddan nhw wedi gorffen. PLANT DETECTIVE Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association