Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
4 years ago

All Star Challenges in Welsh

  • Text
  • Challenges
  • Planhigion
  • Swigod
  • Gwahanol
  • Bydd
  • Gweithgaredd
  • Mewn
  • Eich
  • Wneud
  • Wedi
  • Cosmic
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-Star-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

GEM COSMIC Antur

GEM COSMIC Antur Anifeiliaid Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am fwystfilod bychain a chynefinoedd. Mae Cosmic a Gem wedi diflasu. Mae Gem yn dymuno mynd ar antur anifeiliaid. Dywedodd Wncl Astro y byddan nhw'n dod o hyd i fwystfilod bychain os byddan nhw'n chwilio'n ofalus. Mae Gem yn chwilio ymhobman ond ni all ddod o hyd i unrhyw anifeiliaid bach. Mae Cosmig yn credu y dylen nhw ofyn i Wncl Astro am help. Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo plant i: • Fynd ar helfa bwystfilod bychain • Dysgu am y bwystfilod bychain byddan nhw'n eu gweld a'u cynefinoedd • Rhannu eu canfyddiadau â gweddill y grŵp Rhestr o adnoddau • Pot casglu neu 'pooter' (dyfeisiau arbennig i ddal bwystfilod bychain) • Chwyddwydrau a/neu ficrosgop digidol • Llyfr adnabod (dewisol) • Amgylchedd awyr agored, yn ddelfrydol â chreigiau, boncyffion, cerrig mawr, darnau o hen garped (gallech chi roi rhai ar y tir ychydig wythnosau ynghynt) Beth i'w wneud 1. Cyflwyno'r gweithgaredd gan ddefnyddio'r stori ar y cerdyn gweithgaredd. Gofyn i'r plant lle maen nhw'n disgwyl dod o hyd i bwystfilod bychain. 2. Rhoi cardiau gweithgaredd ac adnoddau i'r plant. 3. Esbonio y byddan nhw'n mynd ar helfa bwystfilod bychain. 4. Annog plant i drafod eu syniadau a sut i gynnal eu hymchwiliadau. Cwestiynau symbylu: • Ble fyddwch chi'n chwilio am fwystfilod bychain? • A fyddwn ni'n eu casglu? Sut fyddwn ni'n sicrhau na fyddwn ni'n eu hanafu? 5. Cynorthwywch blant i wneud eu hymchwiliad ac ysgrifennu eu cofnodion eu hunain am eu canlyniadau. Hefyd gallen nhw dynnu lluniau neu wneud lluniadau. Efallai yr hoffen nhw ddefnyddio canllaw ynghylch bwystfilod bychain i nodi beth maen nhw'n ei ganfod. 6. Gofynnwch i'r plant gyflwyno eu canfyddiadau i weddill y grŵp, gallan nhw fod mor greadigol yn eu cyflwyniad ag y dymunan nhw. 7. Dychwelwch unrhyw fwystfilod bychain a gasglwyd i'w cynefin.

Pethau i'w trafod Dysgwch y plant i drin pob anifail â gofal. Y peth gorau yw arsylwi ar anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol. Fodd bynnag, gellir mynd â hwy dan do am gyfnodau byr, cyhyd â'u bod yn cael eu trin â pharch a'u dychwelyd i ble y'u canfuwyd. Mynd gam ymhellach Mae llawer o blant yn credu bod y gair 'anifail' yn cyfeirio at anifeiliaid blewog mawr yn unig ac nid pobl, pysgod, adar, pryfed, ac ati. Mae'r helfa hon yn canolbwyntio ar dwystfilod bychain ond gallai gynnwys anifeiliaid eraill fel adar hefyd. Mae'r term 'bwystfil bychan' yn golygu anifail bach. Yr enw gwyddonol am fwystfilod bychain yw infertebratau. Mae hyn yn golygu anifail sydd heb asgwrn cefn. Nid oes gan rai infertebratau sgerbwd, fel mwydod. Mae gan eraill, fel trychfilod a phryfed, sgerbwd ar y tu allan (allsgerbwd). Yn gyffredinol, gallwch chi ddod o hyd i ddigon o fwystfilod bychain sy'n byw mewn amgylcheddau llaith, gwlyb, tywyll sydd yn helpu i'w cadw'n ddiogel ac yn eu hatal rhag sychu. Allweddeiriau • Cynefin • bwystfil bychan • Infertebrat Byddwch yn ofalus! Gwnewch yn siŵr fod plant yn golchi eu dwylo'n ofalus ar ôl trin a thrafod creaduriaid. Dilynwch ganllawiau'r sefydliad ynghylch gwaith yn yr awyr agored. Gwnewch yn siŵr nad yw cerrig yn rhy drwm a'u bod yn cael eu codi'n ofalus. Peidiwch â dod ag adar gwyllt na mamaliaid i mewn i'r ysgol oherwydd gallen nhw gludo afiechydon. Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association