Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete six to eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
4 years ago

All SuperStar challenges in Welsh

  • Text
  • Wneud
  • Eich
  • Gweithgaredd
  • Bydd
  • Gwneud
  • Blant
  • Mewn
  • Syniadau
  • Cerdyn
  • Angen
  • Superstar
  • Challenges
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-SuperStar-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

JOURNEY STICK Ffon Daith

JOURNEY STICK Ffon Daith Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Gofynnwyd i'r plant ddilyn yn ôl troed yr Awstraliaid Brodorol a chreu ffon daith. Mae ganddi wrthrychau ynghlwm mewn trefn gronolegol i'w hatgoffa o'u taith ac i helpu i adrodd straeon. JOURNEY STICK Pan fyddai Brodorion Awstralia'n mynd ar deithiau hir, bydden nhw'n clymu gwrthrychau wrth ffon. Bydden nhw'n dechrau ar un pen y ffon ac yn gweithio ar ei hyd wrth iddyn nhw deithio. Byddai'r gwrthrychau yn eu helpu i gofio digwyddiadau a phrofiadau ar eu taith ac i ddweud wrth eraill am eu hanturiaethau. Yn y gweithgaredd hwn, bydd y plant yn casglu gwrthrychau i wneud eu ffon daith eu hunain. Rhestr o adnoddau • Ffyn (gallai plant ddewis eu ffyn eu hunain) • Rhywbeth i glymu'r gwrthrychau i'r ffon e.e. llinyn, tâp, edau cotwm, dolennau elastig • Gwlân lliw neu stribedi ffabrig mewn hambwrdd mawr neu fagiau bach ar gyfer pob grŵp. Gallant gynrychioli lleoedd a digwyddiadau ar y daith, e.e. gwlân glas ar gyfer dŵr neu ffabrig coch ar gyfer yr haul yn machlud wrth i'r daith ddod i ben. Beth i'w wneud 1. Darllenwch y CERDYN GWEITHGAREDD er mwyn ymgyfarwyddo â'r gweithgaredd. 2. Gwiriwch y rhestr Adnoddau i sicrhau eich bod wedi casglu'r adnoddau angenrheidiol. 3. Gosodwch yr olygfa trwy drafod syniad y ffon daith. Mae'n helpu i feddwl am bobl Frodorol. Mae llawer o wefannau sy'n rhoi gwybodaeth gefndirol 4. Dangoswch ffon i'r plant a thrafod dulliau posibl o gofnodi pethau ar y ffon. Cofiwch feddwl am gofnodi digwyddiadau yn ogystal â gwrthrychau. 5. Rhowch amser i blant drafod beth y gallen nhw ddod o hyd iddo a'i brofi ar eu taith. Efallai y byddan nhw hefyd yn helpu i gynllunio eu llwybr. 6. Atgoffwch y plant am ddiogelwch a phlanhigion na ddylen nhw eu casglu. 7. Cychwynnwch y grwpiau ar eu her. Os byddan nhw'n mynd i gyfeiriadau gwahanol i gynyddu'r amrywiaeth, efallai y bydd angen i chi ofyn i oedolion eraill eich helpu chi. 8. Atgoffwch y plant i gofnodi pethau mewn trefn ac i beidio â chynnwys gormod o eitemau. 9. Rhowch oddeutu 20 munud i'r plant ar gyfer eu taith. 10. Pan fydd y plant yn dychwelyd, rhowch amser iddyn nhw drafod beth maen nhw'n mynd i siarad amdano. 11. Ffurfiwch gylch a rhannwch straeon am eu teithiau gan ddefnyddio'r ffyn taith.

Pethau i'w hystyried Anogwch y plant i fachu eu heitemau eu hunain wrth y ffon ac i gofnodi digwyddiadau a phrofiadau yn ogystal â gwrthrychau. Mae rhai planhigion yn wenwynig neu'n llidio croen. Mae rhai eraill yn brin ac ni ddylid eu casglu. Os ydych chi'n ansicr, holwch rywun neu osgowch y llecyn. Dylai plant osgoi tynnu planhigion cyfan allan o'r pridd. Ddylai anifeiliaid ddim cael eu bachu wrth y ffon! Bydd y gweithgaredd hwn yn fwyaf llwyddiannus yn yr awyr agored, ond gellid ei gynnal dan do, os yn briodol. Mynd gam ymhellach Mae gan ffyn arwyddocâd arall i bobl Frodorol. Weithiau fe'u gelwid yn ffyn siarad. Pwy bynnag a oedd yn dal y ffon oedd yn cael siarad tra'r oedd pawb yn gwrando. Gallech chi ddefnyddio'ch ffyn taith fel hyn pan fydd y plant yn rhannu eu syniadau. Allweddeiriau • Teithiau • Teithio • Cofarwyddion JOURNEY STICK Byddwch yn ofalus! Rhaid i blant olchi eu dwylo ar ôl y digwyddiad. Dim bysedd mewn cegau! Osgowch blanhigion gwenwynig neu bigog. Osgowch fynd yn rhy agos i ddŵr. Ystyriwch y nifer o oedolion sydd eu hangen os ydych chi'n gweithio yn yr awyr agored. Os byddwch chi'n mynd y tu allan i dir yr ysgol, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn gweithdrefnau'r ysgol a'r awdurdod lleol Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association