Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete six to eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
4 years ago

All SuperStar challenges in Welsh

  • Text
  • Wneud
  • Eich
  • Gweithgaredd
  • Bydd
  • Gwneud
  • Blant
  • Mewn
  • Syniadau
  • Cerdyn
  • Angen
  • Superstar
  • Challenges
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-SuperStar-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Problem Polymer Cerdyn y

Problem Polymer Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am bolymerau a'u nodweddion gwahanol. Mae Dr Polly Murs o Horners wedi gofyn am gymorth i ddod o hyd i gynnyrch polymer newydd ar gyfer cystadleuaeth. Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Ddysgu sut mae polymerau'n cael eu gwneud • Archwilio gwahanol fathau o bolymerau a'u priodoleddau • Cofnodi a chyflwyno eu canfyddiadau i'r grŵp Rhestr o adnoddau • Detholiad bach o bolymerau. Dewiswch rhwng: - Darnau o bolythen - Plastig o boteli neu gynwysyddion eraill - Neilon o deits - Eira hud - Crisialau sy'n amsugno dŵr - Pwti poti - Llysnafedd - Polystyren wedi ei ehangu (hambyrddau, deunydd pecynnu) - Haenen lynu - Fabrig leicra - Polycarbonad (CDs) - Mousse gwallt - PVC (pibellau, gorchudd llawr) - Llestri pobi silicon - Sbwng artiffisial - Peli sboncio, ac ati • Deunyddiau arlunio • Nodiadau post-it, digon i bob grŵp gael pump Beth i'w wneud 1. Cyflwynwch y gweithgaredd gan ddefnyddio'r neges e-bost gan Dr Polly Murs . 2. Rhowch gardiau gweithgaredd ac adnoddau i'r plant. 3. Dangoswch enghreifftiau o wrthrychau a wneir o bolymerau i'r plant. Canolbwyntiwch ar bethau sydd yn amlwg wedi'u gwneud o blastig. Rhowch rywfaint o wybodaeth syml iddyn nhw am bolymerau a grybwyllir yn yr adran Pethau i feddwl amdanyn nhw. 4. Anogwch blant i drafod eu syniadau a sut i gynnal eu hymchwiliadau. Rhowch amser i'r plant siarad a nodi eitemau eraill maen nhw'n credu eu bod wedi'u gwneud o bolymerau gan ddefnyddio nodiadau postio-fe. Rhannwch yr hyn maen nhw wedi'i ddewis. Pwysleisiwch fod hwn yn

weithgaredd i wella ymwybyddiaeth, nid yn brawf i weld pwy sy'n gywir. 5. Atgoffwch nhw am e-bost Polly. Yna rhowch ddetholiad bach o bolymerau i bob grŵp. Anogwch y plant i archwilio priodoleddau'r deunyddiau gan ddefnyddio geiriau o'r cerdyn gweithgaredd i'w helpu. Dewiswch rai sydd â phriodoleddau gwahanol fel eu bod yn profi ystod eang. 6. Anogwch y plant i feddwl am ddefnyddiau newydd ar gyfer y deunyddiau. Efallai yr hoffech chi awgrymu rhai posibiliadau creadigol i'w cychwyn, megis neilon i wneud storfa deganau sy'n ehangu, neu bolystyren wedi'i ehangu i wneud het gynnes wallgof. Ar ôl i grwpiau o blant benderfynu ar eu hoff ddefnydd newydd, rhowch amser iddyn nhw greu eu dyluniadau. 7. Rhowch un munud i bob grŵp rannu eu dyluniadau ac esbonio eu syniadau. Yna, gadewch i'r grŵp cyfan drafod pa rai i'w hanfon at Dr Polly Murs. Pethau i'w hystyried Efallai y bydd angen rhywfaint o gyfarwyddyd ar blant i archwilio priodoleddau'r polymerau. Os felly, archwiliwch un deunydd gyda'ch gilydd gan ddefnyddio'r banc geiriau. Anogwch blant i gynnwys cymaint o fanylion â phosib ar eu dyluniadau, megis o beth y gwneir y cynnyrch newydd, beth yw ei ddiben a phwy allai ei ddefnyddio. Dylai plant wybod bod polymerau yn sylweddau sy'n cynnwys grwpiau o atomau (neu ronynnau bach iawn) sydd wedi'u huno mewn cadwyni hir iawn. Po fwyaf y bydd y cadwyni hyn yn mynd yn glymau, po gryfaf y daw'r polymer. Mae llawer o bolymerau, megis y rhai a ddefnyddir yn y gweithgaredd hwn, yn cael eu gweithgynhyrchu. Mae polymerau hefyd yn digwydd yn naturiol mewn deunyddiau fel rwber, starts, sidan, protein a DNA. Mae pob plastig yn bolymer, ond dydy pob polymer ddim yn blastig. Mae gan bolymerau ystod ehangach o briodoleddau na'r rhai hynny sy'n cael eu cysylltu'n gyffredin â phlastigau . Allweddeiriau • Polymerau • Plastig • Cadwyni • Moleciwlau Byddwch yn ofalus! Darllenwch bob label ac osgowch unrhyw beryglon posibl. Sicrhewch fod yr holl samplau'n lân ac heb ymylon miniog. Ni ddylid rhoi sylweddau mewn cegau, trwynau na chlustiau. Os bydd damwain, fflysiwch â dŵr sy'n llifo. Sicrhewch fod plant yn golchi eu dwylo ar ôl archwilio'r polymerau. Dysgwch ragor Gweler www.fantasticplastic.org.uk i weld rhagor o wybodaeth am bolymerau. Mae Cwmni Anrhydeddus y Seiri Corn yn hyrwyddo datblygiad, buddiannau a delwedd polymerau a'r diwydiant polymerau. Maen nhw'n meithrin cysylltiadau â chyrff diwydiant ac addysg, ac yn cefnogi ystod o weithgareddau elusennol - www.horners.org.uk Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association