Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete six to eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.
The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.
There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.
To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Polymerau sy'n Amddiffyn Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am bolymerau a'u priodoleddau gwahanol. Mae Dr Polly Murs wedi gofyn am help i benderfynu pa haenen lynu sydd orau i orchuddio ei chinio. Mae'r ffoil mae hi wedi bod yn ei ddefnyddio yn gollwng ei bwyd dro ar ôl tro! A all y plant helpu trwy wirio pa haenen lynu sydd orau? Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Ddysgu am bolymerau • Profi cryfder a gwydnwch gwahanol fathau o haenau glynu • Cofnodi a chyflwyno eu canfyddiadau i weddill y grŵp Rhestr o adnoddau • Detholiad o haenau glynu (gan gynnwys haenen lynu sy'n heb unrhyw PVC) • Ffoil alwminiwm • Blychau cinio neu gynwysyddion eraill • Masau 50 gram i weithredu fel 'pwysau' • Prennau mesur • Camera fideo neu gyfarpar arall (e.e. ffôn symudol) i wneud fideo o'r ymchwiliad • Rhewgell • Popty micro-don Beth i'w wneud 1. Cyflwynwch y gweithgaredd gan ddefnyddio'r stori. 2. Rhowch gardiau gweithgaredd ac adnoddau i'r plant. 3. Gosodwch yr olygfa trwy drafod y neges e-bost oddi wrth Polly. Anogwch y plant i siarad am haenen lynu a ffoil. Ydyn nhw'n defnyddio'r naill neu'r llall gartref? Sut maen nhw'n dod â chinio wedi'i bacio i'r ysgol? 4. Rhowch samplau o haenau glynu a ffoil i'r plant ymchwilio. Pa debygrwydd neu wahaniaethau allan nhw eu sylwi? Anogwch y plant i wneud rhagfynegiadau. Ydyn nhw'n meddwl y bydd cling ffilm yn helpu i ddatrys problem amser cinio Polly? 5. Cynorthwywch blant i wneud eu hymchwiliad ac ysgrifennu eu cofnodion eu hunain am eu canlyniadau. Rhowch ddetholiad o bwysau i bob grŵp, cynhwysydd i ymestyn y deunyddiau drosto a phren mesur. Os yw'n bosibl, caniatewch i bob grŵp roi sampl o'u deunydd gorau i mewn i rewgell i weld beth sy'n digwydd. Hefyd gallen nhw roi'r haenen lynu yn y popty micro-don. Dydy e ddim yn ddiogel i roi ffoil yn y popty micro-don. Sicrhewch fod plant yn lapio pob deunydd sy'n cael ei brofi o amgylch y cynhwysydd cyfan. 6. Gofynnwch i'r plant gyflwyno eu canfyddiadau i weddill y grŵp, gallan nhw fod mor greadigol yn eu cyflwyniad ag y dymunan nhw.
Pethau i'w hystyried Bydd profi ffoil a haenen lynu mewn cymhariaeth â phapur yn helpu plant i ddeall nodweddion defnyddiol polymerau. Er enghraifft, y gallu i wrthsefyll dŵr, pwysau ysgafn a gellir eu mowldio. Mae ffoil alwminiwm yn fwy ymarferol na haenen lynu ar gyfer diogelu bwyd yn y rhewgell. Bydd yn cynnal ei sêl ac mae'n fwy tebygol o atal llosg rhewgell. Gellir arddangos y trydan statig sy'n helpu haenen lynu i lynu trwy hongian darn o haenen lynu oddi ar ymyl bwrdd. Rhwbiwch feiro plastig â ffabrig, yna daliwch y beiro yn agos i'r ddalen o haenen lynu. A all y plant weld yr haenen lynu yn symud tuag at y beiro? Allweddeiriau • Statig • Gwydnwch • Polymerau • Pwysau • Mesurau • Cryfder Byddwch yn ofalus! Pwysig iawn: peidiwch â rhoi ffoil yn y popty micro-don. Dysgwch ragor Fe wnaeth haenen lynu ddod i mewn i'r farchnad ddomestig yn gyntaf yn y 1950au. Gwneir haenen lynu o blastig tenau, felly mae'n ynysydd da. Pan fyddwch chi'n tynnu haenen lynu oddi ar y rholyn, mae rhai o'r electronau o un haen yn cael eu tynnu i haen arall, gan greu mannau o lwyth positif a negyddol. Mae'r cling ffilm yn dal y llwyth hwn, gan achosi iddo gael ei ddenu i fannau o lwyth dirgroes ar ddeunyddiau eraill nad ydynt yn ddargludol megis platiau seramig. Defnyddir ffoil alwminiwm fel gorchudd bwyd ers y 1930au. Nid yw ffoil yn glynu wrth ddeunyddiau eraill ond gall gadw ei siâp wrth ei lapio o amgylch bwyd neu sylweddau eraill. Mae ffoil yn rhwystr da iawn i facteria ac arogl. Defnyddir haenen lynu a ffoil ar gyfer llawer o bethau heblaw am amddiffyn bwyd. Mae haenen lynu yn arbennig o ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd meddygol. Yn aml, defnyddir haenen lynu i helpu i drin llosgiadau, ond mae ganddo lawer o ddefnyddiau eraill. Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236
Pethau i’w hystyried Sicrhewch fo
Dechrau arni Ymarferwch chwythu swi
Beth i'w wneud 1. Darllenwch y CERD
Swyno Mwydod WORM CHARMING Cerdyn G
Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Well
Loading...
Loading...
Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.
Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.
British Science Association
Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD
© 2018 British Science Association