Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete six to eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
4 years ago

All SuperStar challenges in Welsh

  • Text
  • Wneud
  • Eich
  • Gweithgaredd
  • Bydd
  • Gwneud
  • Blant
  • Mewn
  • Syniadau
  • Cerdyn
  • Angen
  • Superstar
  • Challenges
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-SuperStar-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Camgymeriad y Bont

Camgymeriad y Bont Cerdyn y Trefnydd Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am bwysau, grymoedd a mesurau. Gosodir yr her i'r plant helpu Star Spans, sy'n gwmni dylunio, i drwsio eu pont a'i hatal rhag siglo. Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Adeiladu gwahanol fodelau o bontydd. • Profi eu modelau gwahanol i weld pa rai sy'n gallu cynnal y pwysau mwyaf a pham. • Cofnodi a rhannu eu canlyniadau. Rhestr o adnoddau • Papur A4 - 12 taflen fesul tîm (2 ar gyfer archwilio cychwynnol, 5 ar gyfer eu prawf cyntaf, 5 ar gyfer y bont derfynol). Cadwch ychydig ddarnau wrth gefn. Mae papur sgrap yn iawn. • Selotep - dylech chi gyfyngu hyn i stribedi byr fesul grŵp. Mae selotep ar gyfer cysylltu pethau'n unig, nid ar gyfer lapio'r papur. • Màsau 10 a 100 gram, darnau arian, blociau neu adnoddau eraill i weithredu fel 'pwysau' - gall pontydd gynnal màs rhyfeddol o awr. • Blociau chwarae neu rywbeth tebyg i greu'r bwlch 20 cm ar gyfer y bont - neu fwlch rhwng cadeiriau a byrddau. • Lluniau o bontydd (dewisol) Beth i'w wneud 1. Cyflwyno'r gweithgaredd gan ddefnyddio stori Star Spans. Efallai yr hoffech chi ddangos lluniau o bontydd â gwahanol siâp i'r plant. 2. Rhowch gardiau gweithgaredd ac adnoddau i'r plant. 3. Esboniwch y byddan nhw'n defnyddio'r adnoddau a ddarperir i brofi'r dyluniad gorau ar gyfer pont. Rhowch ychydig o amser i'r plant siarad gyda'i gilydd a cheisio gwneud siapiau cryf gan ddefnyddio dalennau unigol o bapur. Gallan nhw blygu neu dorri'r papur os dymunant. 4. Anogwch y plant i drafod eu syniadau a sut i gynnal eu hymchwiliadau. Cwestiynau symbylu: • Faint o wahanol fathau o bontydd ydych chi'n gwybod amdanyn nhw? • A yw rhai siapiau'n gryfach nag eraill? • Sut fyddan nhw'n sicrhau bod eu prawf yn deg? • Sut fyddan nhw'n cofnodi eu canlyniadau?

5. Nawr rhowch 5 dalen o bapur ac ychydig o dâp i bob grŵp. Dywedwch wrthyn nhw fod ganddyn nhw 10 munud i roi cynnig ar syniadau ynghylch sut y gallen nhw wneud eu pont. Nid y bont derfynol fydd hon. Gadewch i bob grŵp brofi eu pont â phwysau wrth iddyn nhw fynd ymlaen. Bydd angen i chi benderfynu gyda'ch gilydd ble i roi'r pwysau ar y pontydd i'w profi. 6. Anogwch blant i werthuso'r dyluniad. Beth mae angen iddyn nhw ei newid i wneud y bont yn gryfach? Nawr byddan nhw'n gwneud eu pont derfynol. Bydd arnyn nhw angen rhagor o bapur. Rhybuddiwch nhw na chaniateir iddyn nhw ddefnyddio unrhyw ddarn o'r hen bapur ond gallan nhw ddefnyddio eu syniadau blaenorol i'w helpu. 7. Cynorthwywch blant i gynnal eu profion a chadw eu cofnodion eu hunain o'u canlyniadau. Hefyd gallen nhw dynnu lluniau neu wneud lluniadau. Ar ôl i blant brofi eu pontydd, rhowch amser iddyn nhw drafod beth oedd yn llwyddiannus a beth na wnaeth weithio. 8. Gofynnwch i'r plant gyflwyno eu pont i weddill y grŵp a'i brofi. Pethau i'w hystyried Gwnewch yn siŵr bod y pwysau'n cael eu gosod, nid eu gollwng, ar y pontydd. Gallwch chi benderfynu dosbarthu pwysau'n gyfartal ar draws y bont (fel y plant yn y stori) neu eu canolbwyntio ar y canol. I wneud cymariaethau teg rhwng y pontydd, dylid cynnal yr un prawf ar bob un. Peidiwch â chysylltu pennau'r bont â'r cynhalwyr. Bydd hyn yn cryfhau'r bont ond os bydd wedi'i chysylltu'n dda, efallai bydd angen pwysau mawr i wneud i hyd yn oed un darn o bapur ddymchwel. Mae llawer o atebion i'r broblem hon. Mae'r siâp yn hol bwysig. Yn aml iawn, dalen wastad o bapur fydd y bont wannaf. Gellir ei chryfhau trwy blygu'n wastad, gan greu siâp prism trionglog neu rolio'r papur ar ei hyd. Gall waliau ychwanegu cryfder a pileri neu fwâu hefyd. Gall crogi'r bont helpu hefyd. Rydym ni wedi defnyddio'r term 'pwysau', yn hytrach na'r term 'màsau' mwy gwyddonol, oherwydd dyma'r term fydd plant ifanc yn fwy tebygol o'i wybod. Allweddeiriau •Adeiladu • Pwysau • Màsau • Crogi • Cynnal 10 100 Mynd gam ymhellach Gallai plant actio seremoni wobrwyo am ddylunio i arddangos y bont neu'r pontydd oedd yn gryfaf. Gallai plant fraslunio eu pont a gwneud nodiadau am sut mae'n gweithio. Byddwch yn ofalus! Osgowch bwysau'n syrthio o uchder. Os bydd pontydd yn uchel, bydd arnoch chi angen bwced o dywod neu flwch cardbord wedi'i lenwi â darnau o bapur wedi'u gwasgu oddi tano i lawr i ddal pwysau sy'n disgyn. ! Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association