Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.
The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.
There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.
To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Profi a Chymharu Te Cerdyn Gweithgareddd Hen stori am de Fe wnaeth hen ddyn ofyn i bob un o'i dri mab addo mynd ar deithiau i archwilio rhyfeddodau gwahanol wledydd. Ar ôl i'r hen ddyn farw, cychwynnon nhw ar eu teithiau. Aeth un i India, un i Dsieina ac un i Siapan. Pan gyfarfu'r brodyr eto, roedd pob un ohonyn nhw'n cario sach fawr. Siaradodd y brawd hynaf yn gyntaf. “Mae India'n llawn rhyfeddodau. Gorchuddir y mynyddoedd â llwyni â dail llachar, gwyrdd. Cesglir y rhain gan fenywod sy'n cario basgedi mawr. Cludir y dail i ffatri, fe'u sychir mewn peiriant enfawr ac fe'u gwneir yn ddiod â lliw oren. Dw i wedi dod â rhywfaint o ddail adref i'w dangos i chi. " Adroddodd y brawd canol ei stori. "Yng ngerddi cyfrinachol Tsieina, maen nhw'n defnyddio'r dail uchaf ac egin planhigion arbennig i wneud diod cysegredig i'r ymerawdwr a'i deulu. Rhoddodd tywysoges ifanc ychydig o ddail i mi i'w cludo adref. " Yna dywedodd y brawd ifancaf, "Yn Siapan, gwelais i wyrth. Mae tonnau gwyrdd melfedaidd yn gorchuddio bryniau'r wlad. Bob gwanwyn, bydd menywod yn tynnu'r haen uchaf o egin a dail a'u defnyddio i wneud diod rhyfeddol. Dyma'r dail gwerthfawr hyn sydd gen i heddiw. " Pan edrychon nhw yn y sachau roedden nhw'n synnu i weld bod pob un ohonyn nhw wedi casglu dail te! Roedd y brawd hynaf wedi casglu te du, roedd gan y brawd canol te wlong coch ac roedd gan y brawd ieuengaf de ffres, gwyrdd. Fe wnaeth y brodyr ddiodydd gan ddefnyddio'r dail ond allen nhw ddim cytuno pa un oedd y te gorau un. (Stori wedi'i haddasu o'r gyfres ‘The Healing Properties of Food’ a ysgrifennwyd gan Alexandra Lopatina a Maria Screbtsova sydd ar gael trwy Kings Hart Books.) Eichher Allwch chi helpu'r brodyr yn y stori i benderfynu pa fath o de sy'n gwneud y diod gorau? Trafodwch Edrychwch yn ofalus ar wahanol ddail te (gallwch chi eu cael allan o fagiau te). Ydyn nhw i gyd yr un fath? Sut fyddwch chi'n gwybod pa de sydd orau? A allai pobl gael barnau gwahanol? Faint o wahanol fathau o de fyddwch chi'n eu defnyddio? Sut fyddwch chi'n sicrhau eich bod yn profi'r math o de, nid y dull a ddefnyddiwyd i'w wneud?
Dechrau arni Beth am gynnal arolwg i ddarganfod pa fath o de mae'ch ffrindiau a'ch teulu'n ei hoffi? Gallech chi gynnal parti te ar eu cyfer. Faint o bobl fyddwch chi'n eu gwahodd? Beth fyddwch chi'n ei ofyn iddyn nhw? Mae rhai cyd-ymchwilwyr wedi cael ychydig o syniadau i'ch helpu i ddechrau: Dw i'n credu y dylen ni edrych ar faint a siâp y dail te. A yw rhai dail yn fawr ac eraill yn ddim ond llwch? Dw i'n credu y gallwn ni drochi papur hidlo ym mhob un o'r mathau o de ar ôl iddyn nhw sefyll am 5 munud, yna cymharu'r lliwiau. Gallen ni ychwanegu'r un faint o ddŵr poeth i'r un faint o ddail te, yna cymharu'r lliw a'r arogl. Dw i'n credu y gallwn ni wneud gwahanol fathau o de yn yr un modd a'u blasu. Cofiwch y bydd angen i bawb gael eu cwpan eu hunain. Profwch eich syniadau Efallai y byddwch chi am ddefnyddio tabl fel yr un isod i gofnodi'ch canlyniadau: Math o de Te rhydd neu fagiau te Cryfder Lliw Arogl Blas e.e. te gwyrdd Pan fyddwch chi wedi gorffen yr arolwg gallwch: • Wneud graff bloc neu bictogram i ddangos beth mae yw barn pobl • Penderfynu a yw un te'n well na'r rhai eraill. Rhannwch eich syniadau Beth am ddylunio bwydlen ar gyfer caffi arbennig sy'n gweini llawer o wahanol fathau o de. Gallech chi gynnwys: • Ffotograffau a disgrifiadau o'r gwahanol fathau o de • Sgoriau ar gyfer pob te yn seiliedig ar eich ymchwiliadau ac arolwg • Cyngor ynghylch pa de i'w yfed. Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Rhif Elusen Gofrestredig 212479 ac SC039236
Heriau yn Gymraeg Addas i blant 7 i
Cynnwys Gweithgaredd Camgymeriad y
5. Nawr rhowch 5 dalen o bapur ac y
Profwch eich syniadau Profwch hi â
Pethau i'w hystyried Atgoffwch y pl
Dechrau arni Bydd rhai anifeiliaid,
Beth i'w wneud 1. Cyflwynwch y gwei
Dechrau arni Gallwch chi ddefnyddio
Loading...
Loading...
Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.
Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.
British Science Association
Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD
© 2018 British Science Association