Primary challenges (ages 3-11)


Typically completed by 3-11 year olds, CREST Star and SuperStar challenges relate to everyday experiences. Children complete eight activities to gain a CREST Award, with each activity taking between 45 minutes and one hour to complete.

The activities are designed to be easy-to-run and low-cost. You don’t need to be a teacher, have a science background or have access to specialist equipment to run them. The packs contain helpful hints and tips for you to use, explaining the scientific themes and offering guidance on conversation topics for your children.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.

Views
3 years ago

All SuperStar challenges in Welsh

  • Text
  • Wneud
  • Eich
  • Gweithgaredd
  • Bydd
  • Gwneud
  • Blant
  • Mewn
  • Syniadau
  • Cerdyn
  • Angen
  • Superstar
  • Challenges
This collection is also available in English. Copy and paste this link in your browser to download the English version: https://www.crestawards.org/s/All-SuperStar-challenges-for-Wales-Collection.pdf This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Saws Tomato Cerdyn y

Saws Tomato Cerdyn y Trefnydd TOMATO SAUCE Ynglŷn â'r gweithgaredd Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i wneud i blant feddwl am drwch hylifon (gludedd). Mae Saws Syfrdanol Tref y Sêr wedi cael ychydig o gwynion am eu saws tomato newydd. Mae rhai yn ei gael yn rhy drwchus, rhai'n ei gael yn rhy denau. A all yr ymchwilwyr helpu i ddod o hyd i'r lefel berffaith o drwch? Trwy'r gweithgaredd hwn byddwch yn cynorthwyo'ch grŵp i: • Feddwl am ba drwch y dylai saws fod • Profi ac arbrofi â gwahanol drwch i helpu i benderfynu pa un sydd orau • Cofnodi eu canlyniadau a chreu stori neu gyfweliad am y canlyniadau TOMATO SAUCE Rhestr o adnoddau • Sawsiau tomato go iawn • Saws tomato ffug (dewis amgen yn lle saws go iawn ar gyfer profi) - pâst papur wal trwchus iawn heb ffyngladdwr yn cynnwys lliw bwyd coch wedi'i ychwanegu - dilynwch gyfarwyddiadau cymysgu'n ofalus • Cwpanau untro ar gyfer samplau saws • Prennau mesur, amserwyr • Llwyau te plastig a/neu bipedi • Twmffedi â phigau o faint gwahanol neu boteli plastig wedi'u torri yn eu hanner • Ffedogau plastig a menig untro TOMATO SAUCE

Beth i'w wneud 1. Darllenwch y CERDYN GWEITHGAREDD er mwyn ymgyfarwyddo â'r gweithgaredd. 2. Edrychwch ar y rhestr Adnoddau gan gynnwys gwneud y rysáit 'saws tomato' sylfaenol a sicrhewch bod gennych yr adnoddau angenrheidiol. 3. Gosodwch yr olygfa trwy drafod y stori a dangoswch rywfaint o boteli tomato saws tomato i'r plant. 4. Rhowch ychydig o saws tomato a gadewch i'r plant siarad am y cwestiynau ar y cerdyn. 5. Casglwch ychydig o adborth cyflym neu ewch yn syth ymlaen i gynllunio'r ymchwiliad. 6. Rhowch amser i blant siarad am sut y gallen nhw brofi gwahanol samplau. Mae syniadau ar y cerdyn y gallan nhw ddewis o'u plith. 7. Sicrhewch eu bod wedi meddwl am gadw nodiadau ond peidiwch â threulio llawer o amser yn cofnodi canlyniadau. Gallech chi baratoi gridiau gwag ar eu cyfer os byddai hynny'n helpu. 8. Atgoffwch nhw am ddiogelwch. 9. Dosbarthwch y saws go iawn a/neu ffug. Atgoffwch nhw fod angen iddyn nhw brofi saws o wahanol drwch. Gadewch i'r plant wneud y trwch gwahanol eu hunain (gallen nhw ychwanegu dŵr i'r sawsiau i roi cynnig ar hyn). 10. Anogwch nhw i roi cynnig ar ba brofion bynnag maen nhw'n ystyried eu bod yn briodol. 11. Rhowch amser iddyn nhw siarad am yr hyn maen nhw wedi'i ddarganfod ac i arddangos yr hyn maen nhw'n credu yw'r trwch gorau ar gyfer y saws. 12. Gallen nhw ysgrifennu stori am fod yn wyddonydd sy'n profi saws tomato yn labordy Sawsiau Syfrdanol Tref y Sêr. Fel arall, gallen nhw gyfweld ei gilydd fel pe baent yn wyddonwyr yn y ffatri. 14. Mae heriau ychwanegol ar y CERDYN GWEITHGAREDD. Gellir defnyddio'r rhain os oes unrhyw amser yn weddill neu os yw'r plant eisiau rhoi cynnig ar ragor o syniadau yn eu cartref ac ennill sticer bonws. Pethau i'w hystyried Gallwch chi ddefnyddio saws tomato go iawn, ond mae 'saws ffug' yn ddewis defnyddiol arall (neu defnyddiwch y ddau). Anogwch blant i ychwanegu ychydig o ddŵr ar y tro i'w 'saws' i wneud ystod o drychau. Mae angen ei gymysgu'n dda i gael cymysgedd llyfn. Cyfyngwch ar faint o saws sy'n cael ei ddefnyddio. Os byddwch chi'n rhoi llawer byddan nhw'n defnyddio llawer! Mynd gam ymhellach Gellir profi pa mor dda mae saws tomato'n llifo (gludedd) mewn peiriant o'r enw Bostwick Consistometer. Mae un rheoliad yn datgan, er mwyn cael gradd uchel, na ddylai'r saws llifo mwy na 10 cm mewn 30 eiliad ar hyd wyneb gwastad y Consistometer. Caiff hyn ei brofi ar 20˚C. Mae saws tomato'n cynnwys llawer o wahanol gynhwysion: tomatos wedi'u coginio a'u hidlo, finegr, siwgr neu felysydd arall, halen, blasau winwns neu arlleg, sbeisys megis sinamon, clofs, mês, pupur Jamaica, nytmeg, sinsir a phupur. Mae gwyddonwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod y cymysgedd o gynhwysion a lliw yn iawn, er mwyn gwneud saws tomato o safon uchel. TOMATO SAUCE Gelwir saws tomato hefyd yn getshyp tomato, saws coch a 'catsup'.

Star level

Collections of one hour challenges recommended for children aged 3-7 years that relate to children’s everyday experiences. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST Star page.


Back to top

SuperStar level


Collections of one hour challenges recommended for children aged 7-11 years that relate to broader situations that children are likely to have come across. Find out more about this level and how to gain a CREST Award on the CREST SuperStar page.


Back to top

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association